SL(6)218 – Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022

Cefndir a Diben

Mae Rheoliadau Darparu Gwybodaeth gan Benaethiaid i Rieni a Disgyblion sy'n Oedolion (Cymru) 2022 (“y Rheoliadau) yn cael eu gwneud gan Weinidogion Cymru drwy arfer y pwerau a roddwyd iddynt gan adrannau 408(1) a 569(4) a (5), a pharagraff 3 o Atodlen 1(3), i Ddeddf Addysg 1996. Yn unol ag adran 408(5) o’r Ddeddf honno, mae Gweinidogion Cymru wedi ymgynghori â’r personau hynny y maent yn ystyried ei bod yn ddymunol ymgynghori â hwy.

Mae Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 ("Deddf 2021”) yn sefydlu fframwaith newydd ar gyfer cwricwlwm ac yn gwneud darpariaeth ynghylch asesu ar gyfer disgyblion a phlant yng Nghymru (“y Cwricwlwm newydd i Gymru”).

Mae rheoliad 1 yn darparu ar gyfer cychwyn y Rheoliadau fesul grwpiau blwyddyn. Bydd hyn yn adlewyrchu'r bwriad i gyflwyno’r Cwricwlwm i Gymru a fydd hefyd yn cael ei gyflwyno'n raddol dros gyfnod o amser fesul grwpiau blwyddyn. Bydd y Cwricwlwm newydd i Gymru a'r Rheoliadau yn cael eu cyflwyno i blant a disgyblion fesult cam. Daw’r Cwricwlwm newydd i Gymru yn fandadol ar gyfer y grwpiau blwyddyn mewn ysgolion a lleoliadau eraill fel a ganlyn—

(a) ar 1 Medi 2022 ar gyfer—

(i) plant mewn ysgol feithrin a gynhelir,

(ii) disgyblion mewn blwyddyn derbyn, ac

(iii) disgyblion ym mlynyddoedd 1, 2, 3, 4, 5 a 6,

(b) ar 1 Medi 2022 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 7 yn yr ysgolion hynny a’r lleoliadau eraill hynny pan fo cwricwlwm wedi ei ddarparu yn unol â Deddf 2021,

(c) ar 1 Medi 2023 ar gyfer plant a disgyblion ym mlynyddoedd 7 ac 8,

(d) ar 1 Medi 2024 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 9,

(e) ar 1 Medi 2025 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 10, ac

(f) ar 1 Medi 2026 ar gyfer plant a disgyblion ym mlwyddyn 11.

Mae’r Rheoliadau hyn yn gymwys mewn perthynas â phlant a disgyblion y darperir addysg iddynt—

(a) mewn ysgolion a gynhelir,

(b) mewn ysgolion meithrin a gynhelir, ac

c) mewn unedau cyfeirio disgyblion (“UCDau“).

Mae’r Rheoliadau yn gymwys i UCDau yn rhinwedd paragraff 3 o Atodlen 1 i Ddeddf Addysg 1996. Mae rheoliad 2(2) yn darparu, mewn perthynas ag UCD, fod cyfeiriad at bennaeth yn gyfeiriad at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD a bod cyfeiriad at gorff llywodraethu yn gyfeiriad at bwyllgor rheoli (os oes un) ac at athro neu athrawes sydd â chyfrifoldeb am UCD os nad oes un.

Mae rheoliad 3 ac Atodlen 1 yn darparu ar gyfer datgymhwyso a dirymu Rheoliadau Adroddiad Pennaeth i Rieni a Disgyblion sy’n Oedolion (Cymru) 2011 (“Rheoliadau 2011”) fesul cam. Mae datgymhwyso a dirymu Rheoliadau 2011 yn adlewyrchu’r dull arfaethedig o gyflwyno’r Cwricwlwm newydd i Gymru a’r Rheoliadau.

Mae rheoliad 4 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir wneud trefniadau i ddarparu gwybodaeth am gynnydd y disgybl o dymor i dymor i rieni disgyblion cofrestredig ac i ddisgyblion sy’n oedolion. Mae’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu wedi ei nodi yn Rhan 1 o Atodlen 2.

Mae rheoliad 5 yn ei gwneud yn ofynnol i bennaeth ysgol a gynhelir ddarparu gwybodaeth am gynnydd blynyddol disgyblion cofrestredig i rieni disgyblion cofrestredig ac i ddisgyblion sy’n oedolion (“gwybodaeth flynyddol”). Mae’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu wedi ei nodi yn Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2. Mae rheoliad 6 yn nodi’r cyfnod adrodd ar gyfer yr wybodaeth flynyddol.

Mae rheoliad 7 yn darparu y caiff disgybl sy’n oedolyn neu riant disgybl ofyn am unrhyw wybodaeth sy’n ofynnol yn rhinwedd rheoliad 5 a Rhannau 2 a 3 o Atodlen 2 y maent yn ystyried ei bod ar goll o’r wybodaeth flynyddol a ddarperir.

Mae rheoliad 8 yn ei gwneud yn ofynnol i’r pennaeth ddarparu i unrhyw ddisgybl sydd wedi peidio â bod o oedran ysgol gorfodol adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol (“adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol”). Mae’r wybodaeth y mae rhaid ei darparu yn yr adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol wedi ei nodi yn Rhan 4 o Atodlen 2.

Mae rheoliad 9 yn nodi’r cyfnod adrodd ar gyfer yr adroddiad i ddisgybl sy’n ymadael â’r ysgol.

Mae rheoliad 10 yn nodi cyfyngiadau penodol ar ddarparu gwybodaeth.

Mae rheoliad 11 yn darparu, pan fo angen, fod rhaid i unrhyw ddogfen neu unrhyw wybodaeth y mae’n ofynnol iddi fod ar gael o dan y Rheoliadau hyn gael ei chyfieithu i’r Gymraeg neu’r Saesneg neu i iaith arall neu gael ei chynhyrchu mewn Braille neu ar dâp sain.

Y weithdrefn

Negyddol.

Gwnaed y Rheoliadau gan Weinidogion Cymru cyn iddynt gael eu gosod gerbron y Senedd. Gall y Senedd ddirymu'r Rheoliadau o fewn 40 diwrnod (ac eithrio unrhyw ddyddiau pan fo’r Senedd: (i) wedi’i diddymu neu (ii) mewn cyfnod o doriad am fwy na phedwar diwrnod) i'r dyddiad y’u gosodwyd gerbron y Senedd.

Materion technegol: craffu

Ni nodir unrhyw bwyntiau i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.2 mewn perthynas â’r offeryn hwn.

Rhinweddau: craffu    

Nodir y pwyntiau a ganlyn i gyflwyno adroddiad arnynt o dan Reol Sefydlog 21.3 mewn perthynas â'r offeryn hwn.

1. Rheol Sefydlog 21.3(ii) – ei fod o bwysigrwydd gwleidyddol neu gyfreithiol neu ei fod yn codi materion polisi cyhoeddus sy’n debyg o fod o ddiddordeb i’r Senedd.

Nid yw'r Rheoliadau hyn yn diffinio'r term "pennaeth" ond defnyddir y term hwn yn helaeth yn y Rheoliadau. Mae offerynnau eraill yn y gyfres, megis Rheoliadau Deddf Cwricwlwm ac Asesu (Cymru) 2021 (Diwygiadau Canlyniadol) (Is-ddeddfwriaeth) (Rhif 2) 2022 yn dweud bod i “bennaeth yr ystyr a roddir iddo yn adran 579(1) o Ddeddf 1996”. Gallai'r anghysondeb hwn o ran dull achosi dryswch i'r darllenydd, yn enwedig o ystyried arwyddocâd y term 'pennaeth' i weithrediad y Rheoliadau.

Ymateb Llywodraeth Cymru

Mae angen ymateb gan Lywodraeth Cymru.

 

Cynghorwyr Cyfreithiol            

Y Pwyllgor Deddfwriaeth, Cyfiawnder a’r Cyfansoddiad

29 Mehefin 2022